Cenhadaeth 3
Dinas gysylltiedig

Divider image of white boxes

Sicrhau bod cysylltedd wedi ei ddiogelu i’r dyfodol, yn wydn ac yn gwella fel y gall ein seilwaith gystadlu gyda’r gorau yn y DU.

Disgwylir i niferoedd y dyfeisiau cysylltiedig gynyddu’n gyflym dros y blynyddoedd i ddod. Byd hyn yn newid y modd y bydd pobl a dyfeisiau yn rhyngweithio â chynnwys a gwasanaethau yn ddramatig. O ganlyniad bydd gofyn i gysylltedd fod ar gael ym mhobman ac yn gallu cysylltu dyfeisiau pŵer mewnbwn isel ac uchel.

Mae’r potensial gan Ryngrwyd Pethau i gymylu’r ffiniau rhwng y byd corfforol a’r byd digidol. Bydd yn ein galluogi ni i fonitro’n barhaus ac i reoli ein hamgylcheddau adeiledig a naturiol gan ein helpu yn ein penderfyniadau. Mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol yn ei le i gefnogi’r dyfeisiau hyn.

Er mwyn i Gaerdydd ffynnu mae angen i ni edrych o’n blaenau a gwella cysylltedd fel y gall pawb gael budd o’r oes ddigidol. Bydd hyn yn golygu cydweithredu â chyflenwyr telegyfathrebu, perchnogion tir a chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y seilwaith digidol iawn gan y ddinas ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn i Gaerdydd wella cysylltedd yn y rhanbarth byddwn yn:

Mae cysylltedd ffeibr yn hanfodol i ddinas fodern. Caiff ei ddefnyddio i drosglwyddo data i a chan ein dinasyddion a’n busnesau, mae’n hwyluso arloesi, yn gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch, mae’n lleihau allgáu cymdeithasol, yn gwella dysgu yn ein hysgolion ac yn asgwrn cefn ar gyfer 5G a Rhyngrwyd Pethau (RhP).

Bydd cysylltedd cyflymder uchel yn cefnogi twf technolegau newydd megis datrysiadau teleiechyd, adloniant symudol, realiti rhithwir, realiti estynedig, amgylcheddau dysgu rhithwir a dulliau newydd o weithio. Mae’n bwysig bod Caerdydd yn cynllunio ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod ei busnesau a’i dinasyddion yn cael manteision cysylltedd cyflym.

Mae gan dros 97% o adeiladau ledled y ddinas gyflymder band llydan sydd yn uwch na 30M/bits yr eiliad. Ond nid yw’r lefel yma o wasanaeth ar gael ledled y ddinas ac yn aml caiff ei gyflenwi ar hyd weiren gopr yn hytrach na ffeibr.

Byddwn yn archwilio a mynd ar ôl ffyrdd newydd i gynyddu argaeledd cysylltedd ffeibr cyflym iawn (gaiff ei adnabod hefyd fel ‘cysylltiad ffeibr i’r adeilad’ – CFfIA) drwy ymchwilio i’r defnydd o seilwaith mynediad agored. Bydd yr ymagwedd yma yn hyrwyddo cystadleuaeth, cynnig mwy o ddewis i’r cwsmer ac yn y pen draw yn cynnig prisiau is.

Dywed cwmnïau telegyfathrebu mai un o’r rhwystrau pennaf i ehangu signal ffôn yn y ddinas yw’r costau sydd ynghlwm â’r gwaith peirianneg sifil sydd ynghlwm â’i gyflenwi. I fynd i’r afael â hyn rydym yn sicrhau ar hyn o bryd fod peipiau ategol yn cael eu gosod mewn datblygiadau newydd a chynlluniau ffordd newydd sy’n mynd rhagddynt ar draws y ddinas. Bydd y peipiau hyn yn helpu cwmnïau telegyfathrebu i gyflwyno cysylltedd ffeibr yn gyflym yn y Brifddinas.

Byddwn yn sicrhau bod cysylltedd ffeibr o gylch y ddinas yn cael ei wella ac yn addas i’r dyfodol fel y gall pawb rannu’r budd a ddaw yn sgil cysylltedd cyflym, fforddiadwy a dibynadwy.

Camau gweithredu:

  • Nodi ardaloedd o gysylltedd gwael a gweithio gyda chwmnïau telegyfathrebu i annog mwy o fuddsoddiad yn yr ardaloedd hyn.
  • Ymchwilio i seilwaith mynediad agored i gynyddu cystadleuaeth a chyrraedd ardaloedd sy’n llai dichonadwy yn fasnachol.
  • Lleihau costau gosod ffeibr drwy osod peipiau mewn datblygiadau newydd a chynlluniau ffordd newydd (ymagwedd ‘palu unwaith’).
  • Gweithio gyda’n Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru i archwilio cyfleoedd i wella cysylltedd ffeibr ar draws y rhanbarth cyfan.
  • Gwella seilwaith ffeibr mewn ardaloedd allweddol i gefnogi ein sectorau twf fel y sector creadigol, technoleg ariannol a thechnoleg rheoliadaeth,

Cyflymderau band llydan Caerdydd

Mae gan 97% o adeiladau gyflymderau sydd dros 30M/bits yr eiliad ar gael iddynt.
Mae gan 71.2% o adeiladau gyflymderau sydd dros 100M/bits yr eiliad ar gael iddynt.
Mae gan 42.9% o adeiladau gyflymderau sydd dros 300M/bits yr eiliad ar gael iddynt.
Mae gan 2.8% o adeiladau gyflymderau ar gael iddynt sydd dros 1G/bits yr eiliad.

Mae Cyfnewidfa Rhyngrwyd Caerdydd mewn sefyllfa gref o ran cysylltedd cyffredinol a chysylltu â’r byd mawr. Gweithredir IXCardiff yn fasnachol gan LINX a dyma unig gyfnewidfa rhyngrwyd Cymru.

Mae presenoldeb y Gyfnewidfa Rhyngrwyd yng Nghaerdydd â’r potensial i roi hwb i gyflogaeth yr ardal drwy ddenu busnesau digidol. Bydd hyn yn gwella’r economi ddigidol ac yn gwneud Caerdydd yn lle mwy deniadol i fyw a gweithio. Ar gyfer busnesau, gall y gyfnewidfa rhyngrwyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd y gall wella cyflymder y rhyngrwyd, ei wneud yn fwy gwydn a gwneud rhannu data a chyrchu gwasanaethau ar-lein yn gynt ac yn haws.

Mae’r budd i gwsmeriaid ar ffurf cyflymder a dibynadwyedd am nad oes angen gyrru data gannoedd o filltiroedd i gyfnewidfeydd rhyngrwyd y tu allan i’r rhanbarth.

Byddwn yn parhau i ymwreiddio’r Gyfnewidfa yn y rhanbarth fel ei fod yn denu darparwyr cynnwys mwy eu maint, a bydd hyn yn helpu i gyflenwi profiad rhyngrwyd mwy cyfoethog i’r defnyddwyr pen draw yn y Rhanbarth.

Camau gweithredu::

  • Cynyddu ymwybyddiaeth a gyrru’r broses o fabwysiadu’r Gyfnewidfa Rhyngrwyd drwy ymgysylltu â busnesau.
  • Ymgysylltu â darparwyr cynnwys a Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd (DGRhau) i’w denu nhw i Gyfnewidfa Rhyngrwyd Caerdydd.
  • Gwella hygyrchedd y Gyfnewidfa yng Nghaerdydd.

Mae 5G yn dod i Gaerdydd yn 2019. Mae’n addo cynnydd aruthrol o ran cyflymder data ac oedi isel. Mae %G wedi ei alw gan rai yn ‘llam ffydd’ gan ei bod yn anodd i ni ddychmygu’r holl wasanaethau ac arloesi fydd i’w weld ar y sbectrwm yn y 10 mlynedd nesaf. Fodd bynnag, mae gennym achosion o ddefnydd cryf mewn meysydd fel cerbydau wedi eu hawtomeiddio (CA), Rhyngrwyd Pethau (RhP), realiti estynedig (RE) a realiti rhithwir (RRh).

Rydym am sicrhau bod Caerdydd wedi ei ‘diogelu i’r dyfodol’ felly byddwn yn cefnogi cyflenwyr telegyfathrebu yn eu hymgais i gyflwyno 5G yng Nghaerdydd. Dylai hyn olygu cyflymu’r broses o gyflwyno 5G a rhoi’r cyfle i’n dinasyddion a’n busnesau i arloesi a chreu gwasanaethau newydd.

Mae signal ffôn rhagorol gan Gaerdydd gyda 96.8% o’r ddinas â signal 4G yn yr awyr agored. Ond mae cyfran fechan o Gaerdydd sydd â signal gwael o hyd. Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr telegyfathrebu i leihau ‘tyllau’ yn y signal.

Camau gweithredu:

  • Gweithio gyda chyflenwyr telegyfathrebu i gefnogi cyflwyno 5G ledled y ddinas.
  • Adeiladu perthnasoedd cryfach gyda’r cwmnïau telegyfathrebu.
  • Mynd i’r afael â’r ‘tyllau’ o ran signal ffôn drwy weithio’n agos gyda’r Llywodraeth Ganolog, Llywodraeth Cymru a DCMS.
  • Gweithio gydag arloeswyr 5G i brofi a pheilota achosion defnydd a fydd yn dwyn buddion i’r ddinas.

Signal 4G awyr agored Caerdydd 96.8% | Signal 3G awyr agored Caerdydd 99.9% Signal 2G awyr agored Caerdydd 99.8%

Signal 4G awyr agored Caerdydd 96.8%

Signal 3G awyr agored Caerdydd 99.9%

Signal 2G awyr agored Caerdydd 99.8%

Mae’r potensial gan Ryngrwyd Pethau (RhP) i drawsnewid y byd yr ydym yn byw ynddo.  Mae’n cynnig i ni’r cyfle i gasglu gwybodaeth o’r byd corfforol a’i brosesu yn y byd digidol.  Gellir defnyddio’r data a gaiff ei gasglu gan ddyfeisiau RhP i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, i awtomeiddio prosesau a hwyluso modelu rhagfynegol.  Gall RhP leihau costau gweithredu, creu arbedion a chynnig cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd.

Rydym wedi gweld sawl awdurdod lleol yn harneisio grym RhP.  Er enghraifft, mae awdurdodau lleol wedi defnyddio synwyryddion ar finiau halen i roi rhybudd pan fydd y lefelau yn isel, ac mae mesurwyr tymheredd yn wyneb y ffordd yn pennu pan fydd angen graeanu.

Byddwn yn ehangu ein defnydd ar RhP ac ymchwilio i ffyrdd creadigol o ddatrys problemau.  Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar ganlyniadau i ddefnyddio RhP fel y caiff ystod eang o fuddion eu gweld ar hyd a lled Caerdydd.

Camau gweithredu:

  • Creu achosion busnes RhP sy’n seiliedig ar ganlyniadau ac yn ystyried buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
  • Ymchwilio i lwyfannau RhP ledled dinas sy’n gallu cefnogi ystod eang o fewnbynnau uchel a dyfeisiau pŵer isel, i fynd i’r afael â heriau penodol yn y ddinas.
  • Creu ‘Her Dinas’ lle gall arloeswyr helpu i fynd i’r afael a phroblem benodol yn y ddinas gan ddefnyddio RhP.
  • Defnyddio data RhP ar gyfer modelu rhagfynegol a dadansoddeg mewn amser go iawn i wella canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
Cenhadaeth 4: Dinas symudol a chynaliadwy

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd