Cenhadaeth 4
Dinas symudol a chynaliadwy

Divider image of white boxes

Defnyddio technoleg ac arloesi i wella seilwaith trafnidiaeth y ddinas a chefnogi Caerdydd wrth iddi ddod yn ddinas carbon isel.

Disgwylir i’r ddinas dyfu’n aruthrol dros yr 20 mlynedd nesaf. Bydd y twf hwn yn rhoi pwysau ar drafnidiaeth a seilwaith ynni’r ddinas yn ogystal â’r amgylchedd naturiol. Mae angen i Gaerdydd sicrhau y bydd effeithiau twf poblogaeth yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy wrth sicrhau y gall pobl symud o gwmpas y Brifddinas yn rhwydd. Mae gan Gaerdydd darged i gyrraedd rhaniad moddol o 50:50 erbyn 2026 (h.y. 50% o siwrneiau i gael eu gwneud trwy ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy). Er mwyn helpu i gyrraedd y nod hwn mae gofyn i Gaerdydd fabwysiadu technolegau clyfar. Bydd y technolegau hyn yn ein galluogi ni i reoli’r rhwydwaith yn effeithiol, i fynd i’r afal â llygredd aer, blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a darpariaeth teithio llesol, dylanwadu ar ymddygiadau teithio a darparu data i’n helpu ni i gynllunio’n well.

Byddai ymagweddau dinas glyfar hefyd yn gwneud Caerdydd yn fwy cynaliadwy – Gall deall sut mae pobl yn symud, sut y defnyddir ynni a sut mae adnoddau yn llifo, oll hwyluso rheolaeth well ar seilwaith, gwella effeithlonrwydd a lleihau gwastraff. Gellir casglu biniau pan fyddont yn llawn, gall gridiau clyfar gydbwyso’r cyflenwad a’r galw am ynni; gall goleuadau ddisgleirio pan fydd eu hangen ar bobl.

Gall digideiddio nwyddau a gwasanaethau olygu llai o alw am adnoddau a llai o siwrneiau. Yn yr un modd ag y mae Spotify yn disodli’r angen i fynd i brynu CD, gall dysgu ar-lein alluogi’r addysgu i ddod at y myfyriwr.

Gall offer dinas glyfar hefyd hwyluso ymddygiadau mwy cynaliadwy. Mae llwyfannau digidol yn cefnogi’r economi rhannu – clybiau ceir, gweithio ar y cyd a chyfnewid rhwng cymheiriaid. Mae Appiau Llywio wedi eu dylunio fel bod dewisiadau cerdded a beicio yn haws, sy’n ei dro yn annog dewisiadau mwy cynaliadwy. Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw Caerdydd i symud a thyfu’n fwy cynaliadwy mae Caerdydd yn cynnig y canlynol:

Mae rhwydweithiau priffyrdd Caerdydd yn debyg iawn i ddinasoedd eraill y DU – maent yn tueddu at dagfeydd, yn enwedig ar yr oriau brig. Mae i dagfeydd traffig lawer o wahanol ganlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gan gynnwys rhwystredigaeth, oedi, llai o amser hamdden, cynnydd yn y defnydd ar danwydd ac allyriadau sy’n gallu effeithio ar yr aer a anadlwn.

Er mwyn lleihau tagfeydd a chadw Caerdydd i symud byddwn yn defnyddio ymagwedd iteraidd at reoli traffig. Bydd hyn yn golygu defnyddio rhannau o’r rhwydwaith fel ‘labordai byw’ lle gallwn brofi, sicrhau’r defnydd gorau a dangos sut mae modd dylunio heolydd clyfar a’u cynnal cyn eu cyflwyno ar draws y ddinas. Byddwn yn sicrhau ein bod yn dewis datrysiadau hyblyg sydd yn gallu addasu i newidiadau o ran cynlluniau teithio a strategaethau fel ein bod yn diwallu anghenion y ddinas yn y dyfodol.

Byddwn yn ymchwilio i sut y mae modd newid ymddygiad teithio yn y ddinas drwy ddefnyddio proses ‘chwarae gemau’ er mwyn annog pobl i symud o gwmpas y ddinas gan ddefnyddio dulliau gwahanol trwy gynnig cymhellion. Mae ‘chwarae gemau’ yn defnyddio rhannau o gemau cyfrifiadurol i annog ymddygiadau penodol drwy anogaeth a chynnig cymhellion. Mae dinasoedd eraill wedi defnyddio dull ‘chwarae gemau’ i leihau tagfeydd yn eu dinasoedd. Byddwn hefyd yn archwilio i weld sut y gellir defnyddio gwybodaeth mewn amser go iawn i hysbysu modurwyr o amhariadau traffig trwy gyfrwng gwefannau, appiau ac arwyddion amrywio negeseuon.

Camau gweithredu:

  • Gweithio gyda dinasoedd eraill i rannu arfer gorau o ran ‘rheoli traffig’ ac ymchwilio i sut maen nhw wedi gwella trafnidiaeth gyhoeddus a galluogi pobl i gerdded a beicio o amgylch eu dinasoedd yn ddiogel a rhwydd.
  • Creu ‘labordai byw’ y gellir eu defnyddio i brofi, sicrhau’r defnydd gorau ac i ddangos technoleg ‘clyfar’ ar waith cyn eu cyflwyno i weddill y ddinas.
  • Ymchwilio i weld sut gall ffynonellau data gael eu defnyddio i ‘ychwanegu gwerth’ i’r rhwydwaith priffyrdd.
  • Ymchwilio i weld pa dechnoleg sydd yn gallu blaenoriaethu darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas.
  • Archwilio i weld sut y gallwn fod yn fwy effeithiol gyda gwybodaeth traffig mewn amser go iawn er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir gyda’r diweddaraf yn cael ei throsglwyddo i fodurwyr.
  • Archwilio sut y gall ‘chwarae gemau’ ddylanwadu ar ymddygiad symudedd.
  • Ffurfio strategaeth ar gyfer Systemau Trafnidiaeth Deallus (STD).
  • Ymchwilio i systemau gwerthu tocynnau integredig ar gyfer Caerdydd a’r rhanbarth ehangach.

Dehongliad artist o sut olwg fydd ar gyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd.

An artist’s interpretation of how Cardiff’s new bus Interchange will look.

Mae profion cerbydau awtonomaidd wedi eu cynnal mewn amryw o Ddinasoedd yn y DU. Does dim sicrwydd ynghylch dyfodol cerbydau awtonomaidd ond teg dweud nad ydym yn gweld cerbydau cwbl awtonomaidd yn dod yn realiti yn ystod oes y map ffordd hwn. Ond, mae cerbydau cysylltiedig sy’n caniatáu cerbydau i gyfathrebu gwybodaeth ar gael yn barod. Trwy gael offer ar fin y ffordd, gall cerbydau cysylltiedig yrru a derbyn gwybodaeth. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i roi gwybodaeth ddefnyddiol i gerbyd a helpu’r gyrrwr i wneud penderfyniadau gwell ar sail gwybodaeth. Gellir hefyd gyfathrebu data i adrannau trafnidiaeth sydd yn eu galluogi nhw i fynd i’r afael ag amodau mewn amser go iawn megis llif traffig.

Mae’r gallu gan gerbydau cwbl awtonomaidd i gynyddu dibyniaeth ar geir ac os na chaiff hyn ei reoli’n gywir gallai danseilio ein hymdrechion i gynyddu cyfraddau cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y Brifddinas. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn ymarferol ein hymagwedd at gerbydau awtonomaidd oherwydd y gallent ddwyn manteision i’r ddinas yn enwedig o ran cynnig trafnidiaeth gyhoeddus a diogelwch.

Dros y blynyddoedd nesaf byddwn yn ymchwilio i effeithiau posib y dechnoleg arloesol yma ar ein dinas. Bwriadwn ymchwilio i’r modd y gall cerbydau awtonomaidd newid ymddygiad teithio yn y ddinas ac archwilio’r modd y gallai’r cerbydau hyn ryngweithio gyda cherddwyr, beicwyr a cherbydau traddodiadol. Byddwn hefyd yn ceisio pennu pa ofynion seilwaith digidol a ffisegol fyddai eu hangen i hwyluso mabwysiadu cerbydau awtonomaidd fel bod Caerdydd yn barod pan ddaw cerbydau awtonomaidd yn realiti.

Camau gweithredu:

  • Ymchwilio i’r gofynion seilwaith digidol sydd eu hangen ar gyfer cerbydau awtonomaidd a chysylltiedig.
  • Archwilio i’r posibilrwydd o sefydlu man profi cerbyd awtonomaidd.
  • Archwilio i weld sut allem wneud defnydd o’r data gan gerbydau cysylltiedig.
  • Ymchwilio i’r effaith y byddai cerbydau awtonomaidd yn eu cael ar ymddygiad yn y ddinas.
  • Ymchwilio i weld a fyddai gofyn i’r seilwaith ffisegol orfod newid er mwyn gallu cynnal cerbydau awtonomaidd.

Mae Caerdydd eisoes wedi dechrau ychwanegu goleuadau stryd clyfar i’w llwybrau strategol sydd wedi helpu i leihau costau ynni ac allyriadau. Mae’r gallu hefyd gan y goleuadau stryd clyfar i gario synwyryddion ategol y gellid eu defnyddio i gynnig cipolwg gwell o’r ddinas.

Mae twf yn y galw am adeiladau, seilwaith a mannau gweithio clyfar. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys technolegau megis monitro argaeledd desgiau, modelu gwybodaeth adeiladau (MGA), technoleg synhwyro a systemau goleuo deallus. Yn gyffredinol mae’r technolegau hyn yn canolbwyntio ar gynnig gwell dealltwriaeth o’r amgylchedd ffisegol a chynnig cipolygon data. Mae’r gallu posib gan seilwaith mwy clyfar i roi gwell dealltwriaeth i ni ynghylch y ddinas a chynnig mannau ac amgylcheddau mwy cyfforddus ac effeithiol i gyflogeion, preswylwyr, cymudwyr ac ymwelwyr. Rydym yn derbyn ei bod hi’n gyffredinol anos i ôl-ffitio’r math hwn o dechnoleg i adeiladau sy’n bodoli eisoes. Fodd bynnag, mae angen ystyried seilwaith mwy clyfar yn ein hadeiladau newydd a phan fyddwn yn ailwampio adeiladau.

Bwriadwn ymchwilio i’r defnydd o synwyryddion yn ein goleuadau stryd clyfar ac edrych i drawsnewid ein hasedau adeiledig yn adeiladau mwy effeithiol o ran ynni. Byddwn yn newid y modd y defnyddiwn ddata ynni i sicrhau’r cyfforddusrwydd a’r arbedion mwyaf posib yn ein hadeiladau.

Camau gweithredu:

  • Chwilio am gyfleoedd i roi seilwaith clyfar ar waith mewn adeiladau newydd ac wrth ailwampio adeiladau.
  • Defnyddio technoleg i fonitro’r amgylchedd mewn amser go iawn a helpu i wneud gwelliannau i’n strydoedd a’n hardaloedd.
  • Gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i greu model clyfar o’r Ddinas sydd â’r gallu i ddefnyddio a gweld data dinas er mwyn gallu rheoli systemau rheoli penodol yn y ddinas o bell.
  • Ehangu cwmpas y goleuadau clyfar i strydoedd preswyl ac ymchwilio i ddefnyddio technoleg synwyryddion goleuadau stryd i gasglu data am yr amgylchedd trefol.
  • Ehangu cwmpas ein dyfeisiau monitro ansawdd aer mewn amser go iawn.

Mesuryddion clyfar – gwella’r defnydd o ynni yn adeiladau’r cyngor

Mae Adran Rheoli Ynni Cyngor Caerdydd yn defnyddio data defnydd ynni (nwy a thrydan) a geir gan fesuryddion clyfar er mwyn defnyddio ynni yn fwy effeithiol ar draws Adeiladau’r Cyngor. Mae’r Tîm Rheoli Ynni yn nodi unrhyw ddefnydd anarferol o ynni ac yn gweithio gyda’n partneriaid rheoli cyfleusterau i wneud y defnydd gorau o ynni yn ein stoc adeiladau.

Mae ein Tîm Rheoli Ynni a Chyfleusterau eisoes wedi cyflawni ystod o brojectau sy’n sicrhau gwelliannau ar draws ein stoc o adeiladau gan gynnwys:

  • darllenwyr mesuryddion awtomatig ar y mwyafrif llethol o gyflenwadau nwy a thrydan
  • gosod goleuadau LED mwy effeithlon mewn nifer o safleoedd
  • creu mwy o ynni adnewyddadwy trwy osodpaneli solar PV ar doeau
  • rhaglenni adnewyddu boeleri, gan gynnwys ychwanegu rheolaeth glyfar wedi eu cysylltu’n ganolog

Wrth i Gaerdydd dyfu, bydd creu a storio ynni adnewyddadwy yn allweddol i wella dycnwch y ddinas a’i hadnoddau naturiol yn erbyn effeithiau posib newid hinsawdd.. Bydd mwy o bobl, mwy o fusnesau a mwy o gartrefi yn arwain at gynnydd yn y galw am ynni. Bydd gofyn i Gaerdydd fuddsoddi mewn seilwaith ynni a dewisiadau carbon sero neu garbon isel er mwyn diwallu anghenion y ddinas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod eu huchelgais i wneud sector gyhoeddus Cymru yn niwtral o ran carbon erbyn 2030. Byddwn yn ymchwilio i’r posibiliadau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, sydd yn lleihau costau ynni ac yn hybu economi carbon isel yng Nghymru.

Byddwn yn ymchwilio i’r defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, cynlluniau storio batris a chymryd camau i gael gwell rheolaeth dros systemau rheoli ynni. Mae poblogrwydd cerbydau trydan ag allyriadau sero neu isel am gynyddu’n gyflym yn y DU ac mae’n bwysig bod y seilwaith priodol wedi ei gosod gan Gaerdydd i’w gwneud nhw’n ddewis deniadol yn lle cerbydau petrol a disel.

Mae datrysiadau seilwaith ynni newydd, arloesol, mwy effeithiol yn dod i’r fei yn ddyddiol felly mae angen i ni ddeall y costau a’r manteision yn llawn o osod seilwaith ynni clyfar.

Camau gweithredu:

  • Ehangu’r defnydd o Systemau Rheoli Ynni Adeiladau (SRhA/SRhYA) a chynyddu’r ddealltwriaeth a’r defnydd a wneir o’r data a gaiff ei gasglu o’r systemau hyn.
  • Ymchwilio i’r defnydd o storio mewn batris o fewn ein hysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill fel y gall ynni adnewyddadwy neu ynni y tu allan i’r oriau brig gael ei storio ar y safle a’i ddefnyddio yn ystod cyfnodau brig.
  • Cwblhau gwaith ar Fferm Solar 8.7MW Ffordd Lamby ac edrych i storio gymaint ag y bo modd a’r defnydd a wneid o’r trydan a gaiff ei gynhyrchu ar adegau penodol o’r dydd.
  • Gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan fel eu bod ar gael i’r cyhoedd mewn ardaloedd ym mhob rhan o’r ddinas.
  • Gosod seilwaith gwefru trydan ar safleoedd allweddol o eiddo’r Cyngor er mwyn cefnogi fflyd gerbydau allyriadau sero neu isel y Cyngor.
  • Ystyried creu rhwydwaith wresogi ardal sydd â’r gallu i wresogi adeiladau cyhoeddus a masnachol.

Mae Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd yn mynd i’r afael â gwaith i orffen datblygiad ynni adnewyddadwy ar Ffordd Lamby. Bydd y datblygiad yn golygu gosod 30,688 o baneli solar (yn y ddaear) gydag allbwn disgwyliedig o 8.7 megawatt (MW).

Bydd ynni a gaiff ei greu o’r fferm solar yn cael ei werthu i fusnes gerllaw, y Grid Cenedlaethol ac o bosib i gael ei ddefnyddio gan ein hasedau ein hunain. Erbyn 2030, rhaid i 70% o’r ynni a gaiff ei ddefnyddio yng Nghymru ddod o eneraduron ynni adnewyddadwy o Gymru.

Photo of Solar panels

Cenhadaeth 5: Dinas iach

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd