Cenhadaeth 5
Dinas iach

Divider image of white boxes

Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gydlynol a bod pobl yn cadw’n iach ac yn annibynnol.

Bu iechyd, gofal a llesiant wastad yn faes heriol gyda chyllidebau llai, heriau demograffig, cynnydd yn y galw am ofal a galw am fwy o wasanaethau â’r dinesydd yn y canol. Mae’r holl heriau hyn yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i gyflymu Caerdydd i fod yn ddinas fwy clyfar.

Rydym am sicrhau ecosystem sydd yn edrych ar ddulliau newydd o gasglu, dadansoddi a chyflwyno data – trwy dechnoleg newydd a thechnoleg sydd wedi ei sefydlu fel technoleg y gellir ei wisgo, dysgu peirianyddol, cynorthwywyr rhithiol, synwyryddion, teleofal a datrysiadau teleiechyd. Bydd technoleg ddigidol arloesol gyda defnydd effeithiol ar ddata yn galluogi dinasyddion i arwain bywydau mwy iach ac annibynnol. Bydd hefyd yn hyrwyddo dulliau ymyrryd cynnar a fydd yn creu arbedion a lleihau’r pwysau ariannol terfynol ar bob rhan o’r system gofal iechyd.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i:

Dros yr 20 mlynedd nesaf disgwylir i niferoedd y bobl hŷn sy’n byw yng Nghaerdydd dyfu’n sylweddol. Bydd poblogaeth hŷn sy’n cynyddu yn gosod pwysau cynyddol ar gyllidebau ac ar ein hysbytai, meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r ‘Strategaeth Iechyd Digidol a Gofal Cymdeithasol i Gymru’ yn manylu ar uchelgais Llywodraeth Cymru i drawsnewid y sector iechyd a gofal yng Nghymru. Er mwyn gwireddu’r uchelgais yma mae gofyn ein bod yn cwestiynu’r hen ddulliau o weithio, cofleidio newid ac edrych ar dechnolegau arloesol a chost effeithiol a fydd yn lleihau’r straen ar wasanaethau ac yn rhoi cymorth i’r henoed a’r anabl i fyw mor annibynnol â phosib.

Mae ystod eang o dechnolegau gwahanol i’w cael yn y maes hwn a all helpu pobl i aros yn annibynnol a galluogi unigolion i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd eu hunain. Mae’r technolegau hyn yn cynnwys appiau/dyfeisiau symudol, technolegau clyfar, fideo gynadledda, teleofal a gwasanaethau teleiechyd, ac ystod o synwyryddion a dyfeisiau sydd yn gallu casglu data pwysig a rheoli’r amgylchedd ffisegol. Er enghraifft, gall teleiechyd alluogi unigolyn i fesur ei fesuriadau hollbwysig gartref. Gall y wybodaeth hon wedyn roi’r grym i unigolyn gymryd mwy o reolaeth dros ei iechyd ei hun, ond yn bwysig iawn gall eu gwybodaeth hollbwysig gael ei throsglwyddo hefyd i weithwyr proffesiynol meddygol iddynt gael dadansoddi a monitro’r cyflwr. Gallai hyn o bosib, leihau’r niferoedd sy’n mynd i’r ysbyty ac ymweliadau diangen at weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

Ein bwriad yw ehangu’r defnydd ar dechnolegau byw clyfar a chynorthwyol i roi’r rhyddid i bobl edrych ar ôl eu llesiant eu hunain a’u galluogi nhw i aros a byw’n annibynnol gyhyd ag y bo’n bosibl.

Camau gweithredu:

  • Ymchwilio i’r defnydd ar dechnolegau clyfar a chynorthwyol sydd yn cefnogi llesiant a byw yn annibynnol.
  • Anelu i leihau ynysu cymdeithasol drwy ymchwilio i well ffyrdd o gadw pobl yn gysylltiedig.
  • Archwilio’r defnydd ar gynorthwywyr rhithwir i gyfeirio defnyddwyr at wasanaethau.
  • Defnyddio appiau a gwefannau i gyfuno gwasanaethau sydd yn cynnig cymorth a chyngor.
  • Uwchraddio ‘Teleofal Caerdydd’ o wasanaeth analog i wasanaeth digidol er mwyn gallu manteisio ar ddatrysiadau Eiddo Deallusol newydd sydd ar y farchnad.
  • Gweithio gyda’n byrddau iechyd i ymchwilio i ddewisiadau Teleiechyd.

Mae angen i’n defnyddwyr gwasanaeth a’n cyflogeion chwarae rhan yn dylunio technolegau iechyd ar gyfer y dyfodol, oherwydd yn y pen draw byddant yn ddylanwadol os yw’r dechnoleg newydd yn cael ei chofleidio ai peidio.

Mae llawer o’n defnyddwyr gwasanaeth a chyflogeion yn defnyddio gwahanol fathau o dechnolegau digidol a gwasanaethau ar-lein yn ddyddiol, i gadw mewn cysylltiad ag aelodau teulu, i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu i siopa, bancio neu i ddarllen ar-lein. Ond, nid yw defnyddio technoleg fel modd o wella darpariaeth iechyd a gofal yn aml yn cael ei ystyried – mae angen i hyn newid fel ei fod yn dod yn brif ffrwd.

Rhaid i ni sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn cael y cyfle i weld a defnyddio technolegau digidol newydd. Drwy archwilio’r dechnoleg ddigidol newydd yma byddant yn cael gwell dealltwriaeth o hyd a lled y dechnoleg a thyfu o ran hyder yn eu gallu eu hunain i’w defnyddio hi. Byddwn yn sicrhau bod y bobl sydd yn defnyddio’r technolegau newydd yma yn rhan o’r broses benderfynu – gall defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol fynegi eu barn a phennu’r hyn maent am ei gael gan eu datrysiadau technoleg.

Er mwyn chwalu’r rhwystrau mae gofyn i ni annog a chefnogi defnyddwyr gwasanaeth a chyflogeion fel bod y pontio i ddigidol yn ddiwnïad. Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr i edrych ar ffyrdd o gael gafael ar brototeipiau a pheilota technoleg newydd er mwyn sicrhau ei bod yn ateb anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal.

Camau gweithredu:

  • Hwyluso digwyddiadau i roi cyfleoedd i ddefnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i weld y dechnoleg newydd.
  • Gweithio gyda chyflenwyr i ymchwilio i greu prototeipiau technoleg iechyd a gofal cymdeithasol newydd fel y gallwn bennu yn gyflym os yw’n bodloni ein hanghenion.
  • Treialu technolegau digidol gyda grwpiau defnyddwyr bach er mwyn deall sut y bydd ‘pawb’ yn cael budd.
  • Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn y broses benderfynu fel y gallant helpu i siapio technoleg a gwasanaethau’r dyfodol.
  • Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal wrth fabwysiadu technolegau digidol newydd drwy ddarparu cymorth ar ôl ei gyflwyno.

Mae gwybodaeth Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ei gadw mewn gwahanol systemau TG ledled Cymru, gan ei gwneud yn anodd rhannu gwybodaeth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn cael effaith benodol ar feysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau brys. Mae’r anallu hwn i rannu gwybodaeth yn rhwydd yn peri nifer o broblemau megis seilos data, aneffeithlonrwydd gwasanaethau a’i gwneud yn anodd dod i benderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Er mwyn cydlynu gwasanaethau byddwn yn edrych ar symud tuag at y gallu i ryngweithredu. Bydd hyn yn galluogi systemau a chyflogeion sydd yn gweithio yn neu gyda’r sector gofal i rannu gwybodaeth yn rhwydd. Byddwn yn ymchwilio i ystod o wahanol dechnegau i wella rhannu data a chwilio am gyfleoedd i brynu datrysiadau newydd sydd yn gallu gwella gwasanaethau a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth a’n gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn golygu cydweithredu, safonau agored, cytundebau rhannu data a dulliau newydd o weithio gyda’n gilydd.

Byddwn yn edrych i gywain y wybodaeth sydd wedi ei gadw ar wahanol systemau TG fel ein bod mewn sefyllfa i ddadansoddi a deall teithiau’r defnyddiwr gwasanaeth yn well. Bydd hyn yn ein galluogi ni i fabwysiadu gofal ataliol, rhagweladwy ac wedi ei deilwra i’n dinasyddion a chreu gwasanaethau mwy effeithiol.

Ein bwriad hefyd fydd sefydlu Bwrdd Iechyd Digidol a fydd yn goruchwylio gwaith yn y maes hwn a chreu strategaeth iechyd a gofal digidol sydd yn gosod nodau ac amcanion i’r dyfodol.

Camau gweithredu:

  • Sefydlu ‘Bwrdd Iechyd Digidol’ gyda rhanddeiliaid allweddol.
  • Creu strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol digidol i Gaerdydd.
  • Sicrhau bod gan systemau iechyd a gofal cymdeithasol newydd a gaiff eu caffael y gallu i gyfnewid gwybodaeth ar draws amrywiol sefydliadau. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i rannu gwybodaeth yn rhwydd (rhyngweithredu).
  • Defnyddio data iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithiol i wella canlyniadau i ddinasyddion.
  • Ymchwilio i drefniadau cyllido ar gyfer heriau iechyd a gofal cymdeithasol penodol er mwyn cynyddu a chyflymu arloesi yn y sector.

Mae pobl eisoes yn defnyddio ystod eang o dechnolegau i wella eu hiechyd a’u llesiant. Mae rhychwant o appiau sy’n defnyddio GPS i dracio ymarfer corff a dyfeisiau gwisgadwy sy’n tracio eich lefelau gweithgaredd, ymarfer a phatrymau cwsg.

Mae Rhyngrwyd Pethau (RhP) wedi dod â datblygiadau pellach yn y maes hwn. Er enghraifft, mae yna ddatrysiadau RhP sydd yn clipio ar i anadlyddion asthma sy’n bodoli eisoes, gan alluogi gweithwyr meddygol proffesiynol i dracio pryd ac ymhle y mae’r defnyddwyr yn cymryd anadliad drwy’r anadlydd. Gellir defnyddio’r data hwn wedyn gan weithwyr meddygol proffesiynol i fonitro technegau anadlu i mewn a’u hamlder. Mae hyn yn golygu gwell rheolaeth dros y cyflwr anadlu.

Byddwn yn ymchwilio i’r modd y mae technoleg yn gallu hyrwyddo gweithgaredd a llesiant drwy gemau sydd yn gallu gweithredu fel ysgogydd sydd yn ceisio newid neu ddylanwadu ar ymddygiadau trwy wobrwyo – Mae Pokemon Go ac appiau Geo-dagio yn enghreifftiau da o sut y gall gemau wella gweithgaredd corfforol a llesiant.

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y maes hwn mae angen i ni weithio’n agosach gyda’n partneriaid gwasanaethau cyhoeddus ac arloeswyr lleol i ddatblygu syniadau ar sut y gallwn ddylanwadu ar ymddygiad drwy RhP, appiau symudol a thechnoleg gwisgadwy. Mae angen i ni sicrhau bod technoleg ddigidol yn cael ei hyrwyddo ar gyfer gweithgaredd corfforol a sicrhau nad ydym yn ‘ail-ddyfeisio’r olwyn’ gan fod yna eisoes nifer o appiau, synwyryddion RhP a dyfeisiau gwisgadwy i’w cael ar y farchnad eisoes.

Camau gweithredu:

  • Ymchwilio i ddewisiadau gemau sy’n hyrwyddo gweithgarwch corfforol a gwella llesiant yn y ddinas.
  • Ymchwilio i weld sut y gall technoleg gael ei defnyddio i wella iechyd a llesiant yn y ddinas a gweithio gyda phartneriaid iechyd i sefydlu mentrau.
  • Datblygu llwyfan iechyd a llesiant sydd â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o weithgareddau yn yr ardal leol a allai wella dewisiadau patrwm byw.
  • Sefydlu grŵp arloesi i fynd i’r afael â heriau iechyd a llesiant penodol.
  • Sicrhau bod dinasyddion yn ymwybodol o’r ystod eang o dechnoleg ddigidol y gellir ei ddefnyddio i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a llesiant.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd