Ein cynnydd hyd yma

Divider image of white boxes

Dyma rai enghreifftiau o brojectau dinas glyfar sydd wedi’u cwblhau neu sydd wrthi’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd.

Mae mentrau dinas glyfar eraill yn digwydd yn y ddinas a’r cyffiniau ac mae esiamplau pellach i’w gweld ar y map ffordd (15.8mb PDF).

Goleuo stryd clyfar

Cyn rhoi’r contract fe wahoddodd y cyngor grŵp o wneuthurwyr LED blaenllaw i arddangos eu nwyddau gan ddefnyddio man arbrofi ar hyd dwy stryd yn y ddinas. Roedd y man arbrofi yn galluogi cymariaethau go iawn ac i ddinasyddion, rhanddeiliaid allweddol a grwpiau arbenigol i adolygu ansawdd y golau.

Ymatebodd cyfranogwyr yr astudiaeth gan ddefnyddio holiadur gosod er mwyn pennu eu hymatebion a’r hyn a ffafrient mewn sawl agwedd gan gynnwys unffurfiaeth y golau, rendro’r golau, lefelau llachar, ymddangosiad lliw/tymheredd, ac estheteg y lampau. Defnyddiwyd y man arbrofi gan y tîm project hefyd ar gyfer dadansoddiad technegol o lefelau Lux a metrigau goleuo eraill.

Ysgogyddion

Y prif ysgogyddion oedd er mwyn creu arbedion ar filiau ynni’r ddinas, a atgyfnerthwyd gan awydd i dorri allyriadau carbon a chynnig rhwydwaith oleuo ymatebol y gellir ei reoli.

Manteision

Mae’r system newydd wedi lleihau bil ynni’r ddinas £800,000 yn y flwyddyn gyntaf a disgwylir iddo dalu am gost y project o fewn 5 mlynedd. Ar ben hynny, disgwylir arbediad o tua £130,000 y flwyddyn ar gostau rheoli a chynnal a chadw. Caerdydd yw’r unig ddinas yn y DU a gaiff ei chydnabod gan y Gymdeithas Ryngwladol dros Awyr Dywyll am ei hymdrechion i leihau effaith goleuadau artiffisial ar awyr y nos.

  • Mae’r cynllun goleuo clyfar wedi mynd y tu hwnt i’r amcangyfrifon ynni gwreiddiol ac wedi gwneud ‘canfod beiau’ o amgylch y ddinas lawer yn haws.
  • Mae’r goleuadau clyfar wedi eu galluogi â GPS sydd yn galluogi rheoli asedau i ddigwydd mewn amser go iawn i’r dyfodol. Gellir rheoli’r goleuadau a’u monitro gyda System Reoli Ganolog (SRG) ddeallus.

Mae Caerdydd wrthi’n gosod goleuadau clyfar ar ei strydoedd preswyl yn y ddinas.

15,000 o oleuadau stryd cysylltiedig ar ein rhwydwaith ffyrdd

Parcio clyfar

Bellach mae gan Gaerdydd fwy na 3,300 o synwyryddion ar waith o amgylch y ddinas sydd wedi eu cysylltu â Mannau Clyfar ledled y ddinas. Mae’r rhain yn trosglwyddo gwybodaeth i system swyddfa gefn yn y cwmwl sydd yn casglu data. Defnyddia’r Cyngor y data hwn i fonitro ei asedau parcio ac i gynllunio gwelliannau i reoli parcio yn y ddinas.

Mae’r system hefyd yn bwydo argaeledd parcio i ap am ddim sydd yn dangos mewn amser go iawn pa fannau parcio ar y stryd sydd yn rhydd a hefyd yn eu cyfeirio at ofod sydd ar gael. Rhoddir dolen hefyd i’r defnyddiwr sydd yn ei alluogi i dalu am barcio drwy ddatrysiad talu o bell (miPermit). ParkCardiff yw’r lle cyntaf yn Ewrop i ddefnyddio technoleg parcio glyfar ledled y ddinas.

Profi

I ddechrau fe ddefnyddiwyd 225 o synwyryddion Parcio Clyfar RFID mewn mannau parcio poblogaidd i weld a oedd y dechnoleg yn gweithio.

Ysgogyddion

Gall chwilio am fannau parcio greu tagfeydd, cynyddu’r defnydd ar danwydd a chodi allyriadau carbon yn yr ardal.

Manteision

Mae’r system yn rhoi gwybodaeth barcio hanfodol i’r Cyngor ac yn rhoi gwybodaeth amser go iawn ar y mannau parcio rhydd ledled ardal Caerdydd. Mae’r ap yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac yn helpu i leddfu tagfeydd, lleihau defnydd tanwydd y defnyddiwr a lleihau allyriadau carbon.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho:

Android

iOS

Vector image of a Car with wifi

Mae dros 3,300 o synwyryddion parcio ar draws y ddinas.

Cynllun rhannu beics – Next Bikes

Mae llwyddiant cynllun rhannu beics Caerdydd yn enghraifft wych o waith partneriaeth. Mae gan y cynllun rhannu beics 500 o feics a 60 gorsaf yn weithredol bellach ac mae disgwyl i hynny ddyblu erbyn diwedd y flwyddyn. Mae llwyddiant cynllun nextbike Caerdydd y tu hwnt i bob disgwyliad ac erbyn hyn wedi dod yn rhan greiddiol o seilwaith drafnidiaeth y ddinas.

Ysgogyddion

Cefnogwyd y cynllun rhannu beics gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru er mwyn lleihau tagfeydd, rhyddhau llefydd parcio a chynnig dull iach a chynaliadwy o deithio o amgylch y ddinas. Mae Caerdydd yn awyddus i ddod yn ddinas feicio a nod y cynllun nextbike yw annog pobl i adael eu ceir gartref ac ystyried dulliau teithio amgen.

Nextbike

Mae nextbike wedi gweld 278,000 llogiad yn digwydd ers ei lansio yn 2018.

Manteision

Mae’r cynllun nextbike wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae’r defnyddwyr yn helpu Caerdydd i gyrraedd ei darged o newid moddol 50:50 erbyn 2026 (50% o siwrneiau i gael eu gwneud trwy ddulliau teithio cynaliadwy a 50% mewn ceir). Mae’r cynllun beics wedi gwella pa mor weladwy yw beics yn y ddinas ac wedi annog mwy o feicio sydd yn dod â manteision iechyd ac amgylcheddol yn ei sgil.

Disgwylir i’r cynllun nextbike ehangu yn ddiweddarach eleni gan gynnig 1000 o feics mewn 130 gorsaf.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd 2024

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd