Cenhadaeth 2
Dinas a yrrir gan ddata

Divider image of white boxes

Defnyddio data i wella gwneud penderfyniadau, darparu gwasanaethau gwell a hyrwyddo arloesi yn y ddinas.

Mae’r modd y rheolwn ddata yn bwysig i’r ddinas.  Mae penderfyniadau ar sail data wedi dod yn ‘norm’ i’r rhan fwyaf o sefydliadau sector preifat ond nid yw llawer o awdurdodau lleol wedi cofleidio’r newid hwn.  Mae symiau mawr o ddata gan Gaerdydd ond hyd yn hyn mae’r canolbwyntio wedi bod ar ddefnyddio’r data at ddiben wedi ei dargedu – nid yw’r buddion posib wedi eu gwireddu yn llawn.  Byddwn yn edrych i newid hyn a sicrhau ein bod yn defnyddio data i ddatblygu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon.

Bydd bod yn fwy strategol gyda data nid yn unig o fudd i Gyngor Caerdydd, ond bydd hefyd o fantais i’n sefydliadau partner, busnesau a dinasyddion.  Bydd yn rhoi cipolwg i ni ar yr hyn sydd yn gweithio’n dda, yn ein galluogi ni i ddod i benderfyniadau ar sail tystiolaeth ac i’n symud at ddulliau cyflawni mwy rhagweithiol.

Nod Caerdydd yw bod yn ddinas sy’n defnyddio data i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.  Er mwyn llwyddo yn hyn o beth byddwn yn mentro ar y canlynol:

Mae symiau mawr o ddata gan Gaerdydd ac mae’n bwysig ein bod yn dod yn effeithiol o ran gwneud penderfyniadau ar sail data.  Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig nifer o wasanaethau ac fel y rhelyw o sefydliadau cyhoeddus mae’n amhosib dod o hyd i un system feddalwedd sy’n ateb ein holl anghenion, o ganlyniad mae hyn yn creu seilos data – lle nad yw gwybodaeth yn llifo’n rhwydd rhwng amrywiol adrannau.

Er mwyn sicrhau ein bod yn symud yn ein blaenau yn y maes hwn byddwn yn fwy ymarferol gyda data a chwilio am ffyrdd o gyfuno setiau data allweddol er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio data’n fwy effeithiol.  Bydd yn dryloyw yn ein defnydd o ddata gan weithio yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC).

Byddwn yn defnyddio offer digidol i greu adroddiadau a dashfyrddau fel ein bod mewn sefyllfa i gael cipolwg busnes sy’n ddefnyddiol.  Byddwn yn ymchwilio i weld sut allwn ragweld a rhagnodi nwy o ran ein gwasanaethau gan ddefnyddio dadansoddeg data, gwyddoniaeth data, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial.

Bydd defnyddio data’n effeithiol yn ein helpu ni i ddeall y ddinas ac anghenion ei phobl.  Bydd yn rhoi cyfle i ni greu gwasanaethau gwell a mwy perthnasol ac i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Camau gweithredu:

  • Sicrhau bod arweinwyr ac uwch reolwyr yn cefnogi diwylliant data – lle caiff data a dadansoddi eu defnyddio i fwydo’r broses benderfynu a chreu polisi.
  • Creu heriau data i flaenoriaethu cysylltu setiau data uchel eu gwerth a allai wneud gwelliannau cyflym i wasanaethau.
  • Mabwysiadu dull hyblyg o gasglu, dadansoddi a dehongli setiau data.
  • Cwblhau Strategaeth Ddata a fydd yn gweithredu fel map ffordd ar gyfer pob gweithgaredd yn ymwneud â data.
  • Rhoi’r gallu i gyflogeion ‘weld’ data gan ddefnyddio meddalwedd.
  • Ymchwilio i’r defnydd o gyfrif integredig canolog fel porth i wasanaethau. Bydd hyn yn atal/lleihau dyblygu data.

Cysylltu a gweld data – gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth

Rydym yn mabwysiadu dull hyblyg o weithio gyda data.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni feithrin perthynas gryfach rhwng ein hadrannau TGCh a’n ardaloedd busnes.  Bydd yn creu ymdeimlad o ‘berchnogaeth ar y cyd’ ac atebolrwydd.  Bydd datgymalu rhwystrau diwylliannol yn sicrhau y bydd yr ardal fusnes a’n hadrannau TGCh â chyfle i eistedd yn yr un ystafell a chyfnewid gofynion, syniadau a chamau gweithredu.

Rydym wedi dechrau gweithio ar gynllun project gan ddefnyddio data sydd yn gysylltiedig â’n rhaglenni symudol a’n gwefannau.  Mae’r data rydym yn ei ddefnyddio yn y project hwn yn amrywio o nifer y defnyddwyr sydd wedi ymweld â’r safle, i adolygiadau ac adborth gan ddefnyddwyr.   Daw’r data hwn o amrywiaeth o ffynonellau megis Google Analytics, Google Play Store ac App Store Apple.

Prif nod y project yw mudo’r data draw i gronfa ganolog, ‘cysylltu’ y data ac yna archwilio’r data gan ddefnyddio adroddiadau gweledol (dashfyrddau).  Bydd y mewnwelediad o’r data hwn yn ein galluogi ni i wella’r gwasanaethau presennol a ‘pharatoi’r ffordd’ i gynnig gwell gwasanaethau yn y dyfodol.

Bydd defnydd ar ddata yn chwarae rhan anferth yn ein heconomi ac yn newid y modd y darperir gwasanaethau gydol y DU. Mae cyfle cyffrous gan Gaerdydd i ddod yn awdurdod lleol arloesol a yrrir gan ddata sy’n torri tir newydd gyda’i ddefnydd o ddata.

Mae ein dull o ddefnyddio data yn fwy effeithiol yn dechrau gyda chydnabod bod ‘bwlch sgiliau’ gennym yn y maes hwn. Ein bwriad yw ‘pontio’ y bwlch sgiliau hwnnw a dangos buddion gweithio gyda data i gyflogeion.

Ein bwriad fydd nodi staff sydd â rôl ddadansoddi data a rhoi hyfforddiant staff a datblygu perthnasol.

Ein bwriad fydd gweithio gyda Sefydliad Ymchwil Arloesi Data Prifysgol Caerdydd, Academi Gwyddoniaeth Data a’r Cyflymydd Arloesedd Data, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio â sefydliadau eraill sy’n rhagweithiol gyda data gyda golwg i ddysgu o’u profiadau a chael mwy o fewnbwn creadigol.

Cynorthwy-ydd rhithiol – moderneiddio cyswllt cwsmeriaid a chyflawni sgiliau newydd

Nod y Project Cynorthwy-ydd Rhithiol yw moderneiddio cyswllt cwsmeriaid yn fewnol ac allanol ac awtomeiddio gwasanaethau trafodiadol. Mae cynorthwyydd rhithiol yn gallu perfformio tasgau neu wasanaethau i unigolyn yn seiliedig ar eu gorchmynion. Er enghraifft, pe byddai defnyddiwr am wybod pa ddiwrnod y cesglid ei wastraff a’i ailgylchu, byddai’r cynorthwyydd rhithiol yn gallu ymateb yn gywir a phriodol.

Mae’r cynigion yn cynnwys:

  • Sgyrsiau dwy ffordd trwy fysellfwrdd neu ddyfais glyfar – wedi eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial.
  • Adnabod llais a synthesis llais – dadansoddir llais y cwsmer ac ymatebir yn briodol iddo gan ddefnyddio llais wedi ei syntheseiddio.
  • Adnabod gweledol ar dipio anghyfreithlon (prawf o gysyniad) – adnabod eitemau wedi eu dympio trwy ddadansoddiad gweledol.

Yn ystod camau rhoi’r project yma ar waith bydd ein timoedd TGCh yn derbyn hyfforddiant technegol i barhau â chamau datblygu dilynol. Mae’n bwysig bod cyflogeion yn derbyn cyfle i weithio gyda thechnoleg arloesol ac i fod yn gyfarwydd â’r diweddaraf o ran newid yn y diwydiant. Bydd yr hyfforddiant a roddir yn ystod y project hwn yn sicrhau bod y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol gennym i ddiwallu ein dyheadau i’r dyfodol ar gyfer project y cynorthwyydd rhithiol a phrojectau eraill.

Camau gweithredu:

  • Nodi cyflogeion sydd â swyddogaeth o ran dadansoddi data a buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu mewn meysydd fel dadansoddeg data, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial.
  • Dod ag academia, y cyhoedd a’r sector breifat ynghyd i wella’r modd y caiff data ei addysgu mewn ysgolion a dangos sut y caiff ei ddefnyddio yn y byd mawr. Y nod gyffredinol yw sicrhau bod plant yn dysgu sut i ddefnyddio a deall data yn effeithiol.
  • Rhannu gwybodaeth gydag academia, sefydliadau o’r sector cyhoeddus a phreifat sydd eisoes yn defnyddio data er mantais i’w hunain.
  • Yn fewnol dangos nwyddau a phrojectau lle defnyddiwyd data i sicrhau effaith.
  • Creu mentrau mentora i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth o ran defnyddio data ymhellach.

Bwriad Cyngor Caerdydd yw cyhoeddi data agored er mwyn bod yn fwy tryloyw ac atebol. Gwelwn ddata agored fel cyfle i ymgysylltu â ac ymrymuso dinasyddion. Croesewir cyhoeddi data agored hefyd gan fusnesau, busnesau newydd ac academyddion gan ei fod yn eu galluogi i fanteisio ar fylchau mewn marchnadoedd, i weld cyfleon busnes, creu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a datblygu modelau busnes newydd.1

Mae faint o ddata y bydd Cyngor Caerdydd yn ei gasglu yn debygol o gynyddu gyda chynnydd Rhyngrwyd Pethau (RhP) oherwydd y gellir fwy neu lai synhwyro a mesur bron pob peth bellach. Bydd y data a gaiff ei gasglu o ddyfeisiau RhP yn gwella’r data sydd gennym eisoes a hwyluso ffordd well o benderfynu. Byddai cyhoeddi’r data hwn hefyd yn rhoi cyfle i’n busnesau a’n dinasyddion i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Mae’n deg dweud bod cyhoeddi data agored yn cyflwyno heriau amrywiol yn amrywio o faterion trwyddedu i orfod cyhoeddi’r data diweddaraf yn gywir a pharhaus. Fodd bynnag, mae wedi ei gofleidio eisoes gan nifer o sefydliadau llywodraeth a bellach ceir ystod eang o setiau data agored sydd ar gael gan amrywiol sefydliadau llywodraeth.

Mae’r Sefydliad Data Agored1 yn diffinio data agored fel:

Camau gweithredu:

  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i ymchwilio i a blaenoriaethu setiau data agored uchel o ran gwerth a fyddai’n fuddiol i’r ddinas.
  • Creu cronfa storio data sy’n caniatáu mynediad rhwydd i ddata agored mewn fformat di-rwystr, ac sy’n annog sefydliadau i gyfrannu eu data.
  • Gweithio gyda’n prifysgolion, partneriaid sector cyhoeddus a phreifat i rannu arfer gorau yn ymwneud â Data Agored.
  • Gweithio gydag ysgolion i ymchwilio i weld a ellir bwydo projectau yn ymwneud â data i brojectau data agored dinas glyfar. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc i gael eu cynnwys a helpu i siapio’r dyfodol.

Rydym wedi gweld llawer o brojectau data dinas glyfar yn ‘chwythu eu plwc’ am nad oedd awdurdodau lleol a chwmnïau sector breifat yn agored neu’n dryloyw yn y modd yr oeddent yn casglu, defnyddio neu rannu data – dyw Caerdydd ddim am wneud yr un camgymeriad.

Mae cyfreithiau RhDDC wedi cryfhau hawliau deiliaid data ac yn ddigon teg wedi gwneud y sector gyhoeddus a’r sector preifat lawer yn fwy atebol i’w preswylwyr, defnyddwyr gwasanaeth a chwsmeriaid.

Os yw Caerdydd i lwyddo fel dinas glyfar mae angen iddi ennill ymddiriedaeth y cyhoedd a dangos ei bod yn dryloyw wrth gasglu, defnyddio a rhannu data. Mae prosesau eisoes ar waith sy’n edrych ar amrywiol agweddau ar RhDDC megis llywodraethiant gwybodaeth a chaniatâd. Fodd bynnag, bydd y defnydd ar dechnoleg newydd megis synwyryddion mewn mannau cyhoeddus a datblygiadau o ran deallusrwydd artiffisial yn galw am ffyrdd newydd o feddwl am ei fod yn dod ag ystod o rwystrau yn ei sgil megis ymddiriedaeth, rhwystrau cyfreithiol, a chyfyng gyngor moesegol a moesol.

Byddwn yn gweithio gydag academyddion, busnesau, cyrff cyhoeddus a dinasoedd eraill i weld sut maent hwy wedi mynd i’r afael â phryderon ymddiriedaeth y cyhoedd a dysgu o’u profiadau. Byddwn yn ymchwilio i’r defnydd o fframweithiau ‘ymddiriedolaethau data’. Mae Ymddiriedolaethau Data wedi eu clustnodi yn Strategaeth Ddiwydiannol y DU fel mecanwaith posib ar gyfer trosglwyddiad data teg a diogel.

Camau gweithredu:

  • Sicrhau bod dinasyddion wedi eu hysbysu ynghylch y modd y defnyddiwn eu data trwy ddulliau cyfathrebu priodol.
  • Ymchwilio i’r defnydd o ‘ymddiriedolaethau data’ a dysgu gan ddinasoedd sydd wedi cymryd rhan mewn cynlluniau peilot.
  • Ymchwilio i weld sut allwn ni wella rhannu data yn gyffredinol drwy edrych ar ystod o fframweithiau rhannu gwybodaeth.
  • Gweithio’n gydweithredol gydag academyddion, busnesau, cyrff cyhoeddus a dinasoedd eraill i ymchwilio i sut maen nhw wedi gwella ymddiriedaeth y cyhoedd a dysgu o’u profiadau.
Cenhadaeth 3: Dinas gysylltiedig

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd 2024

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd