Capital ambition logo

Caerdydd fel Dinas Glyfar

Divider image of white boxes

Mae Caerdydd Glyfar yn archwilio’r defnydd o dechnoleg a data er mwyn gwella bywydau’r bobl sydd yn gweithio ac ymweld â’r Brifddinas.

Mae’r map ffordd dinas glyfar ‘drafft’ hwn wedi ei ddylunio i fod yn hyblyg ac i weithredu fel catalydd i gydweithredu, meddwl arloesol, gwasanaethau a ddyluniwyd yn well ac i’n galluogi ni i fanteisio ar ddatblygiadau technoleg.

Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith fod ein hymagwedd dinas glyfar yn uchelgeisiol ond yn ceisio osgoi camau gwag y mentrau dinasoedd clyfar cynnar. Nid yw’n golygu projectau canoli mawr na’n hyrwyddo defnyddio technoleg heb wir bwrpas iddo. Yn hytrach, ein bwriad yw dysgu o brofiadau dinasoedd eraill, gweithio gyda’n dinasyddion a thargedu mentrau a fydd yn cynnig datrysiadau o werth uchel ar gyfer y bobl sydd yn byw, gweithio ac ymweld â’r ddinas.

Mae pum cenhadaeth i Fap Ffordd Dinas Glyfar Caerdydd Mae’r cenadaethau hyn yn hyrwyddo gweithio cydweithredol, hyrwyddo penderfyniadau ar sail data, anelu i ehangu cysylltedd, gwella iechyd a llesiant, cynyddu symudedd, a bydd yn helpu i sicrhau y bydd Caerdydd yn parhau i fod yn ddinas gynaliadwy.

 

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd