Dyma rai enghreifftiau o brojectau dinas glyfar sydd wrthi yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd.
Gallwch hefyd weld rhai o’n projectau yn y gorffennol sydd wedi eu cwblhau.
Cladin Adeiladau
Mae Cyngor Caerdydd yn rhan o broject Gorwelion 2020 a ariennir gan Ewrop sydd yn gweithio i ddylunio a dangos system gosod cladin ar adeilad newydd sydd yn gwneud y gorau i gynaeafu ynni o ffynonellau adnewyddadwy a lleihau ynni.
Nod y project yw deall y defnydd ynni fesur awr a’r amodau aer y tu fewn i’r eiddo, cyn gosod system gladin newydd, ac ar ôl ei osod. Mae Cyngor Caerdydd yn gosod ystod eang o synwyryddion y tu mewn i eiddo i gofnodi gwybodaeth megis gorsafoedd tywydd Raspberry Pi, synwyryddion tymheredd a lleithder.
Rhwydwaith Gwres Ardal
Mae rhwydwaith wres yn system tanddaearol o bibau wedi eu hynysu sy’n cymryd gwres o ffynhonnell ganolog a’u yrru i adeiladau cyfagos a thrwy hynny leihau eu dibyniaeth hwy ar danwydd ffosil ar gyfer gwres. Mae’r ffynhonnell wres yn aml yn gyfleuster sy’n cynhyrchu gwres neilltuol yn uniongyrchol i’r rhwydwaith, megis gorsaf ynni a gwres ar y cyd. Mae ffynonellau gwres eraill posib yn cynnwys gwastraff gwres a gasglwyd o seilwaith ddiwydiannol a threfol, gwres a gynhyrchwyd fel ynni mewn safleoedd gwastraff, a gwres a gynaeafwyd o ffynonellau naturiol megis camlesi, afonydd a ffynonellau dŵr tanddaearol. Gall Rhwydweithiau Caled leihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil ar gyfer gwresogi adeiladau ac felly maent yn ffurfio rhan bwysig o gynlluniau’r Llywodraeth i leihau carbon a gostwng biliau gwresogi i gwsmeriaid.
Mae dogfen Uchelgais Prifddinas y Cyngor yn ymrwymo’r Cyngor i ddatblygu cynigion ar gyfer rhwydwaith wres gynaliadwy i’r Ddinas. Mae’r uchelgais hon ynghlwm â’m hymrwymiadau ni ar newid hinsawdd a lleihau carbon, yn enwedig targed fwyaf diweddar LlC i bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Byddai datblygu rhwydwaith gwres llwyddiannus hefyd yn cynnig cyfle i greu gweithgaredd economaidd lleol sylweddol yn y ddinas yn ogystal â helpu i ddatblygu safle Caerdydd fel cyrchfan fusnes carbon isel â meddwl blaengar.
Gellir crynhoi amcanion strategol hir dymor Caerdydd felly fel:
- Defnyddio ffynonellau gwres amrywiol Caerdydd i ddarparu cyflenwadau gwres cost isel.
- Sefydlu seilwaith a fydd yn galluogi dadgarboneiddio hir dymor ar gyflenwadau gwres.
- Cynnig cyflenwadau gwres hir dymor wedi eu caffael yn lleol ac sydd wedi eu diogelu.
- Cynnig gwres ar gost isel fel budd datblygiad economaidd ar gyfer busnesau sy’n bodoli a rhai newydd.
- Cynnig buddion i’r economi gyffredinol yng Nghaerdydd a Chymru yn ehangach.
Fferm Solar Ffordd Lamby
Mae safle tirlenwi sydd wedi ei gapio o eiddo’r Cyngor ar Ffordd Lamby ers peth amser wedi ei ystyried fel lleoliad addas ar gyfer fferm solar ar raddfa fawr a fyddai yn gallu:
- cynnig swm sylweddol o ynni adnewyddadwy, glân i gyflenwi’r grid trydan yn lleol ac adeiladau gerllaw,
- gwneud cyfraniad cadarnhaol i dargedau creu ynni adnewyddadwy a lleihau carbon lleol a chenedlaethol,
- cynnig gweithgaredd economaidd lleol a defnydd cynhyrchiol hir dymor ar gyfer safle a fyddai fel arall yn anodd ei ddatblygu
- cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cyngor a phob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru i fod yn “garbon niwtral” erbyn 2030.