Trosolwg cenhadaeth

Divider image of white boxes

Bydd Caerdydd yn cyflawni’r cenadaethau canlynol er mwyn cyfrannu at ddatrys heriau’r Ddinas.

Cenhadaeth 1: Dinas gydweithredol

Sicrhau y bydd gan bobl gyfle i chwarae rhan yn nhrawsnewidiad Dinas Glyfar Caerdydd

  • Cydweithredu ac ystyried ffyrdd gwell o ymgysylltu â’r ddinas
  • Ymgysylltu â chyflogeion i sicrhau’r canlyniadau gorau
  • Mynd i’r afael ac eithrio digidol a llythrennedd digidol
  • Ymrwymo i waith partneriaeth

Cenhadaeth 2: Dinas a yrrir gan ddata

Defnyddio data i wella’r broses benderfynu, cynnig gwasanaethau gwell a hyrwyddo arloesi yn y ddinas

  • Defnyddio data’n fwy effeithiol
  • Buddsoddi mewn sgiliau data a’u datblygu
  • Gwneud data’n haws i’w gael
  • Datblygu ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd wrth rannu a defnyddio data

Cenhadaeth 3: Dinas gysylltiedig

Sicrhau fod cysylltedd yn addas i’r dyfodol, yn wydn ac yn well fel y gall ein seilwaith digidol gystadlu â’r gorau yn y DG.

  • Gwella’r seilwaith ffibr
  • Ymwreiddio Cyfnewidfa Rhyngrwyd Caerdydd yn y rhanbarth
  • Cyflwyno 5G yn ddidrafferth a gwella cysylltedd symudol
  • Harneisio grym Rhyngrwyd Pethau (RhP)

Cenhadaeth 4: Dinas symudol a chynaliadwy

Defnyddio technoleg ac arloesi i wella seilwaith trafnidiaeth y ddinas a chefnogi ymdrech Caerdydd i ddod yn ddinas carbon isel

  • Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gadw Caerdydd i symud
  • Ystyried gofynion seilwaith ar gyfer cerbydau hunan-yrru
  • Datblygu seilwaith ac amgylcheddau adeiledig mwy clyfar
  • Rhoi seilwaith ynni clyfar ar waith

Cenhadaeth 5: Dinas iach

Sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn gysylltiedig a fod pobl yn cadw’n iach ac annibynnol

  • Defnyddio technoleg ddigidol i helpu defnyddwyr i aros yn annibynnol
  • Cyd-ddylunio technoleg iechyd
  • Cydlynu Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Defnyddio technoleg i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a gwella llesiant

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd 2024

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd