Mae’r cyfnod ymgynghori bellach wedi dod i ben. Rydym wrthi yn casglu eich adborth abydd Map Ffordd DInas Glyfar yn cael ei ryddhau maes o law.Mae Caerdydd Glyfar yn archwilio’r defnydd o dechnoleg a data er mwyn gwella bywydau’r bobl sydd yn gweithio ac ymweld â’r Brifddinas.
Mae’r map ffordd dinas glyfar ‘drafft’ hwn wedi ei ddylunio i fod yn hyblyg ac i weithredu fel catalydd i gydweithredu, meddwl arloesol, gwasanaethau a ddyluniwyd yn well ac i’n galluogi ni i fanteisio ar ddatblygiadau technoleg.
Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith fod ein hymagwedd dinas glyfar yn uchelgeisiol ond yn ceisio osgoi camau gwag y mentrau dinasoedd clyfar cynnar. Nid yw’n golygu projectau canoli mawr na’n hyrwyddo defnyddio technoleg heb wir bwrpas iddo. Yn hytrach, ein bwriad yw dysgu o brofiadau dinasoedd eraill, gweithio gyda’n dinasyddion a thargedu mentrau a fydd yn cynnig datrysiadau o werth uchel ar gyfer y bobl sydd yn byw, gweithio ac ymweld â’r ddinas.
Mae pum cenhadaeth i Fap Ffordd Dinas Glyfar Caerdydd Mae’r cenadaethau hyn yn hyrwyddo gweithio cydweithredol, hyrwyddo penderfyniadau ar sail data, anelu i ehangu cysylltedd, gwella iechyd a llesiant, cynyddu symudedd, a bydd yn helpu i sicrhau y bydd Caerdydd yn parhau i fod yn ddinas gynaliadwy.
Trosolwg cenhadaeth
Bydd Caerdydd yn cyflawni’r cenadaethau canlynol er mwyn cyfrannu at ddatrys heriau’r Ddinas.
Cenhadaeth 1: Dinas gydweithredol
Sicrhau y bydd gan bobl gyfle i chwarae rhan yn nhrawsnewidiad Dinas Glyfar Caerdydd
- Cydweithredu ac ystyried ffyrdd gwell o ymgysylltu â’r ddinas
- Ymgysylltu â chyflogeion i sicrhau’r canlyniadau gorau
- Mynd i’r afael ac eithrio digidol a llythrennedd digidol
- Ymrwymo i waith partneriaeth
Cenhadaeth 2: Dinas a yrrir gan ddata
Defnyddio data i wella’r broses benderfynu, cynnig gwasanaethau gwell a hyrwyddo arloesi yn y ddinas
- Defnyddio data’n fwy effeithiol
- Buddsoddi mewn sgiliau data a’u datblygu
- Gwneud data’n haws i’w gael
- Datblygu ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd wrth rannu a defnyddio data
Cenhadaeth 3: Dinas gysylltiedig
Sicrhau fod cysylltedd yn addas i’r dyfodol, yn wydn ac yn well fel y gall ein seilwaith digidol gystadlu â’r gorau yn y DG.
- Gwella’r seilwaith ffibr
- Ymwreiddio Cyfnewidfa Rhyngrwyd Caerdydd yn y rhanbarth
- Cyflwyno 5G yn ddidrafferth a gwella cysylltedd symudol
- Harneisio grym Rhyngrwyd Pethau (RhP)
Cenhadaeth 4: Dinas symudol a chynaliadwy
Defnyddio technoleg ac arloesi i wella seilwaith trafnidiaeth y ddinas a chefnogi ymdrech Caerdydd i ddod yn ddinas carbon isel
- Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gadw Caerdydd i symud
- Ystyried gofynion seilwaith ar gyfer cerbydau hunan-yrru
- Datblygu seilwaith ac amgylcheddau adeiledig mwy clyfar
- Rhoi seilwaith ynni clyfar ar waith
Cenhadaeth 5: Dinas iach
Sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn gysylltiedig a fod pobl yn cadw’n iach ac annibynnol
- Defnyddio technoleg ddigidol i helpu defnyddwyr i aros yn annibynnol
- Cyd-ddylunio technoleg iechyd
- Cydlynu Gwasanaethau Cyhoeddus
- Defnyddio technoleg i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a gwella llesiant